Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
30 Tachwedd 2022
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13050
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Cododd Alun Davies Bwynt o Drefn yn ymwneud â chyfleoedd i Aelodau graffu ar Aelodau Dynodedig a benodwyd o dan y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Cytunodd y Llywydd i ystyried y mater a godwyd ymhellach a nododd y byddai’r Cytundeb Cydweithio yn destun gwaith craffu yn y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yr wythnos ganlynol.
2 Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Dechreuodd yr eitem am 14.27
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
3 Cwestiynau Amserol
Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol
4 Datganiadau 90 Eiliad
Dechreuodd yr eitem am 15.16
Gwnaeth Jenny Rathbone ddatganiad am - Tŷ bwyta “The Clink” yng ngharchar Caerdydd yn cau ar ôl 10 mlynedd.
Gwnaeth Vikki Howells ddatganiad am - Ariannu’r celfyddydau a grwpiau cymunedol yng Nghymru: Penblwydd 70 Hapus i ‘The Mousetrap’ (25 Tachwedd).
Gwnaeth Heledd Fychan ddatganiad am - Llongyfarch tîm pêl droed dynion Cymru a’r Wal Goch am hyrwyddo Cymru i’r byd.
5 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid - Trefniadau ariannu ar ôl gadael yr UE
Dechreuodd yr eitem am 15.22
NDM8149 Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar drefniadau ariannu ar ôl ymadael â’r UE a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Hydref 2022.
Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Tachwedd 2022.
Derbyniwyd ymateb Llywodraeth y DU i’r adroddiad ar 21 Tachwedd 2022. (Saesneg yn unig)
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
6 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol - Sicrhau chwarae teg: Adroddiad ar gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol mewn ardaloedd difreintiedig
Dechreuodd yr eitem am 16.19
NDM8152 Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol ‘Sicrhau chwarae teg: Adroddiad ar gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol mewn ardaloedd difreintiedig’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Awst 2022.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Tachwedd 2022.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
7 Dadl ar ddeiseb P-06-1302 – Rhaid gwarchod mynyddoedd unigryw Cambria yng Nghanolbarth Cymru drwy eu dynodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol
Dechreuodd yr eitem am 17.17
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM8146 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi’r ddeiseb ‘P-06-1302 Rhaid gwarchod mynyddoedd unigryw Cambria yng Nghanolbarth Cymru drwy eu dynodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol’ a gasglodd 20,889 o lofnodion.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
43 |
11 |
0 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig.
8 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Pwyllgor diben arbennig ymchwiliad COVID-19 Cymru
Dechreuodd yr eitem am 17.40
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM8150 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.5:
1. Yn sefydlu pwyllgor diben arbennig ymchwiliad COVID-19 Cymru
2. Yn cytuno mai cylch gwaith y pwyllgor yw:
a) nodi ble nad yw ymchwiliad COVID-19 y DU yn gallu craffu'n llawn ar ymateb Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus Cymru i bandemig COVID-19;
b) cynnal ymchwiliad i'r meysydd a nodwyd;
3. Yn cytuno y bydd y pwyllgor yn cael ei ddiddymu erbyn Rhagfyr 2024 yn dilyn dadl yn y Cyfarfod Llawn ar ei adroddiad terfynol.
Cyd-gyflwynwyr
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
28 |
55 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig. Felly, gwrthodwyd y cynnig.
9 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Busnesau bach
Dechreuodd yr eitem am 18.15
NDM8151 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi y bydd Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn cael ei gynnal ar 3 Rhagfyr 2022.
2. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae busnesau bach yn ei wneud o ran cynnal economïau lleol, datblygu cymunedau a chreu swyddi.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio'r ysgogiadau sydd ganddi i gefnogi busnesau bach yng Nghymru yn well.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
10 Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 18.45
11 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.49
NDM8147 Natasha Asghar (Dwyrain De Cymru)
Rhwyd ddiogelwch i blant: gwarchod hawl plant i fod yn ddiogel ar-lein
Daeth y cyfarfod i ben am 19.13
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 6 Rhagfyr 2022